Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
26 Hydref 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13014
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiwn 1-3 a 5-9. Tynnwyd cwestiwn 4 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Dechreuodd yr eitem am 14.19
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 4 a 5 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 15.03
Atebwyd gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Sioned Williams (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Llywodraeth ddatganiad yn dilyn dyfarniad yr Uchel Lys ar gynlluniau addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot?
4 Datganiadau 90 Eiliad
Dechreuodd yr eitem am 15.09
Gwnaeth Natasha Asghar ddatganiad am - Diwali.
5 Cynnig i ethol Cadeirydd Dros Dro y Cyfarfodydd Llawn
Dechreuodd yr eitem am 15.11
NDM8114 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 6.23A, yn ethol Paul Davies fel Cadeirydd Dros Dro y Cyfarfodydd Llawn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod – Bil Addysg Awyr Agored (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 15.12
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8069 Sam Rowlands (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:
Yn cytuno y caiff Sam Rowlands AS gyflwyno Bil i roi effaith i'r wybodaeth a gaiff ei chynnwys yn y Memorandwm Esboniadol a gyhoeddwyd ar 17 Awst 2022 o dan Reol Sefydlog 26.91A.
Dogfennau Ategol
Papur Ystadegol: Bil Addysg Awyr Agored (Cymru)
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
1 |
24 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig.
7 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil Manteisio ar Fudd-daliadau
Dechreuodd yr eitem am 16.05
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8108 Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil defnyddio budd-daliadau.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) sicrhau bod mwy o arian yn dod i bocedi pobl Cymru drwy gynyddu'r defnydd o daliadau cymorth Cymreig a thaliadau cymorth awdurdodau lleol;
b) gosod dyletswydd ar bob sefydliad sector cyhoeddus i hyrwyddo i'r eithaf y defnydd o fudd-daliadau Cymreig a budd-daliadau awdurdodau lleol;
c) ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus symleiddio a sicrhau cysondeb drwy Gymru o ran y dull o ymgeisio am fudd-daliadau o'r fath.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
30 |
19 |
1 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig.
8 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg – Mae’n effeithio ar bawb: Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr
Dechreuodd yr eitem am 16.32
NDM8112 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ‘Mae’n effeithio ar bawb: Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Gorffennaf 2022.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Hydref 2022.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Strôc
Dechreuodd yr eitem am 17.15
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8113 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod Diwrnod Strôc y Byd yn cael ei gynnal ar 29 Hydref 2022.
2. Yn cydnabod yr ymateb brys sydd ei angen i atal perygl i fywyd pobl sy'n dioddef strôc.
3. Yn cyfarwyddo'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2, i gynnal adolygiad i fanteision a heriau ail-gategoreiddio strôc fel "coch: galwadau sy'n bygwth bywyd ar unwaith" o dan y Model Ymateb Clinigol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
36 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
0 |
14 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM8113 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod Diwrnod Strôc y Byd yn cael ei gynnal ar 29 Hydref 2022.
2. Yn cydnabod yr ymateb brys sydd ei angen i atal perygl i fywyd pobl sy'n dioddef strôc.
3. Yn nodi sefydlu Bwrdd y Rhaglen Strôc yn ddiweddar i ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau ac i sicrhau canlyniadau gwell i bobl yng Nghymru o ran strôc.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
10 Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.06
Crynodeb o Bleidleisiau
11 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.11
NDM8107 Tom Giffard (Gorllewin De Cymru)
Ariannu dyfodol Cymru: buddsoddi mewn prifysgolion i sbarduno twf economaidd
Daeth y cyfarfod i ben am 18.35
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 8 Tachwedd 2022